Datganiad i’r wasg am Y Sbridion gan Lywodraeth Cymru

Dyma gyswllt i ddatganiad Llywodraeth Cymru am aps Y Sbridion heddiw: http://wales.gov.uk/newsroom/businessandeconomy/2014/140320ale/?skip=1&lang=cy

Mae’r aps yn ddwyieithog o fewn y teitl, ‘The Flitlits’. Gobeithio bydd Apple yn caniatau teitlau dwyieithog yn y dyfodol. Mae cyflwyniadau a lluniau dwyieithog o fewn y disgrifiadau ar dudalen pob ap, fodd bynag:

  • Miri yn y Ffair / The Funny Fair
  • Yr Ynys Aer /  A Ferry to Airy
  • Y Sioe Sglein / A Shine Show Shock

Mae’r ymchwil a’r creu wedi cymryd tair blynedd… o leiaf!

Teulu Bach Nantoer

Jester new Thumb copy

 

Helo, Eiry sydd yma.

Gwers y dydd: Rhaid i mi beidio â rhannu blogiau cyn cywiro teipos.

Rhaid i mi gyfaddef i mi deimlo’n wirion o sentimental wrth wylio rhaglen Beti George am Deulu Bach Nantoer ar S4C. Dewiswyd fy enw, ac enw Ieuan, fy mrawd, allan o’r llyfr eiconig hwn.  Mae’r stori wedi aros gen i erioed a dw’i yn fy chwechdegau erbyn hyn. Darllenodd Mam hanes y teulu bach i ni lawer tro: pump o blant ym mhentref Y Tymbl ac mae’r llyfr gen i o hyd.

Wedi i fy nhad fy nghofrestru, ni sylwyd bod fy enw wedi ei gamsillafu ar y ddogfen tan i mi gyrraedd 14 oed. Rhaid oedd i Mam yrru llythyr i ‘Somerset House’ fel i mi gael caniatâd i ddefnyddio Eiry yn hytrach nag Eiri. Mae’n enw sy’n cael ei gam-ynganu, hyd yn oed yng Nghymru, a dw’i wedi colli cownt ar y nifer o gyfeiriadau at Mr Eiry Rees / Thomas /Beth Bynnag dw’i wedi rholio fy llygaid wrth eu darllen. Efallai fy mod i’n un o’r Mr Men… Mr Eiri/ Eiry/ Beth/ Pwy? Grr! Dim siawns.

Cyfrannodd mam waith ysgrifenedig yn y Gymraeg am ddegawdau, a hynny gyda’i brawd Hywel Harries, oedd yn ddarlunydd a chartwnydd, yn ychwanegu lluniau. Teitl un llyfr oedd Llyfr Eiry ac mae gen i gopi sy’n eithaf blêr yr olwg erbyn hyn. Roedd yn achlysur hapus i ni fel teulu pan wisgwyd fy mrawd Ieuan, sy’n gweithio fel caligraffydd, a gwisg wen Eisteddfodol ond yn drist o ran y ffaith nad oedd mam yn ddigon iach i dderbyn ei gwahoddiad hithau’r un flwyddyn.

Erbyn hyn, ysgrifennu yw fy moddhad, gyda blynyddoedd lawer wedi eu treulio yn gweithio gyda Brian, fy mrawd ieuengaf yn cynllunio a darlunio cymeriadau y buon ni’n eu creu ers i ni fod yn blant bach. Belinda o’r Tylwyth Teg oedd y cymeriad cyntaf: enw mor ddi-Gymraeg, ond oedd yn swnio’n grand iawn ar y pryd (heb ddod ar draws y Mabinogion pryd hynny). Aethon ni drwy lu o Datws Twp, blodau, elfennau a mwy o gymeriadau hurt na ddangosem ni i neb. Cawsom ni lawer o sbri ar hyd y ffordd heblaw am y ffaith fy mod i lawer yn rhy heini yn dodi’r darluniau drwy Photoshop nes iddyn nhw edrych yn arallfydol. Ymateb Brian o hyd yw danfon llun dwl ohono i, i dynnu coes:  Rhyw ddydd, efallai bydd gen i ddigon o bres i edrych fel llun ddanfonodd e o fi gydag wyneb tyn, tyn wedi bod o dan y gyllell, neu’n ymlacio’n debyg i Barbara Cartland tra’n pennu pum mil o lyfrau’r flwyddyn mewn dillad pinc. Ond dw’i ddim mor hoff o binc â Jordan.

Wedi damwain â achosodd i mi roi’r gorau i fy ngyrfa flaenorol 15 mlynedd yn ôl, dw’i wedi bod yn ysgrifennu o ddifri ac yn edrych ‘mlaen i weld aps a llyfrau Y Sbridion wedi eu cyhoeddi yn ddwyieithog. Mewn ffordd, rwy’n teimlo braidd fel Eiry fach Nantoer o ran y ffaith fy mod i wedi profi ail ddechreuad wedi’r ddamwain sydd hefyd yn fy nwyn i yn ôl i’r blynyddoedd cynnar o ddarllen ac ysgrifennu. Rhain a rhoddodd cymaint o ysbrydoliaeth i mi i greu storïau ac i ysgogi’r iaith Gymraeg – heb deipos.

Jester Bit interviews author, Eiry Rees Thomas

Jester new Thumb copy

 

Jester Bit: Good morning, Eiry.

Eiry: The same to you, Jester.

Jester: Have you signed papers, promising to write stories about The Flitlits of Fussbut, Seldom See?

Eiry: Of course, Jester.

Jester: Where were the papers signed?

Eiry: At the bottom.

Jester: Just a minute; I’m the designated jester!

Eiry: You are indeed, Jester Bit.