Sul y Cofio
Pabïau
Creodd natur flodyn
 phetalau perffaith, coch.
Sut allai rhywbeth mor brydferth
Ein hatgoffa am fywydau coll?
Wedi i’r drylliau dawelu
Ynghanol y mwd a’r glaw,
Syrthio gwna’r blodau o’r Nefoedd
Ar y rhai na ddant nôl o’r baw.
Cofiwch pan ddaw pob Tachwedd
A Sul y Cofio a ddaw
Am y rhai sydd yn gorffwys dan babau
A’r pris wnaethant dalu’n y glaw.
ⒸEiry Rees Thomas 2018