Mae trwyn Madam Conc, ar sbring, yn lledu’r neges ar hyd Y Gornel Gudd y bydd y Sbridion yn westeion ar S4C/ Heno, nos Fawrth 25ain o Fawrth. Mae’r Frenhines Bren Ddi-Glem yn rhedeg o gylch y Palas Penwan fel mellten yn ei ‘sgidiau trwm-bwm. Bydd y Brenin Gem yn mwydro trwy ddatganiad cyn gostwng nôl i gysgu.